P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan Corria ar ran Michelle Christopher, ar ôl casglu 238 o lofnodion ar bapur.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob blwyddyn. Bob 3.5
eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymrui gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth
Gyhoeddus Sepsis i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau
i’r goroeswyr a’r holl bobl y mae’n effeithio
arnynt.
Er cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi
effeithio arnynt yng Nghymru
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gogledd Caerdydd
· Canol De Cymru